Defnyddio isdeitlau
O’r teledu:
Mae isdeitlau Saesneg ar gael English ar Freeview, Sky, Cable a Freesat.
Mae isdeitlau Cymraeg ar gael ar Freeview a Sky.
Os dych chi eisiau mwy o wybodaeth am isdeitlau neu am wasanaethau mynediad S4C, ffoniwch Linell Gymorth S4C ar 0870 600 4141 neu ewch ar-lein.
O’r cyfrifiadur:
Clic ydy gwasanaeth ar alw S4C. Dych chi’n gallu gwylio rhaglen eto ar-lein neu ddal i fyny â rhaglen dych chi wedi’i cholli am hyd at 35 diwrnod.
Wrth ddefnyddio Clic, dych chi’n gallu dewis gwylio heb isdeitlau, gydag isdeitlau Saesneg neu gydag isdeitlau Cymraeg.
Mae defnyddio’r opsiynau isdeitlau ar Clic yn ffordd dda o ddefnyddio rhaglenni teledu i wella’ch Cymraeg.
O ddogfen Word:
Erbyn hyn dych chi’n gallu lawr lwytho isdeitlau Cymraeg ar gyfer rhai rhaglenni ar ffurf dogfen Word. Fel arfer, mae’r isdeitlau ar gael i’w lawrlwytho y diwrnod ar ôl i raglen gael ei dangos am y tro cyntaf. (Os ydy rhaglen ar S4C ar nos Sul, bydd yr isdeitlau ar gael o ddydd Llun.) Am resymau technegol, dyn ni ddim yn gallu dangos acenion ar isdeitlau Cymraeg ac felly fyddan nhw ddim yn ymddangos yn y dogfennau Word. Cliciwch Lawrlwytho yn y ddewislen ar y chwith i weld pa raglenni sy ar gael.
