Cynnwys
Bob wythnos bydd gwefan Dysgwyr S4C yn rhoi sylw i 3 (weithiau 4) rhaglen neu gyfres
Ar gyfer pob lefel iaith, bydd pedwar math o adnawdd iaith – Sioe Slediau, Clip a Sgript, Cyfweliad a Gemau a Gweithgareddau Iaith.
Y sioe slediau ydy’r lle i ddechrau. Yma, mewn geiriau a lluniau, byddwn ni’n dweud beth sy yn y rhaglen yr wythnos yna; dyma’r ffordd i baratoi ar gyfer gwylio’r rhaglen a dilyn yn well beth sy’n digwydd.
Ar gyfer pob rhaglen hefyd bydd clip fideo byr sy’n dod o’r rhaglen. Dyn ni ddim yn newid sain y rhaglen o gwbl; beth sy’n wahanol ydy’r sgript. Ar bob lefel byddwn ni’n paratoi sgript Gymraeg sy wedi ei golygu neu ei symleiddio; byddwn ni hefyd yn paratoi fersiwn Saesneg o’r sgript yna. Wrth fynd i fyny drwy’r lefelau bydd y sgript yn fwy tebyg i’r iaith ar y sgrîn. Mae’r gweithgaredd yma ar gael ar y wefan ar ôl i’r rhaglen gael ei dangos ar S4C am y tro cyntaf.
Ar gyfer pob cyfres, bydd cyfle i ddarllen cyfweliad gydag un neu fwy o’r bobl sy’n ymddangos ar y gyfres. Mae’r cyfweliadau yma yn dilyn patrwm o holi er mwyn i ddysgwyr ddod yn gyfarwydd â sut i ofyn cwestiynau. Mae llawer o’r atebion yn dilyn yr un patrymau a’r un geiriau hefyd. Dylai dysgwyr sy’n defnyddio’r adnawdd hwn yn rheolaidd ddod yn gyfarwydd iawn â iaith holi ac ateb. Bydd y cyfweliadau ar y wefan ar ddechrau cyfres newydd ac maen nhw’n help i ddeall mwy am y bobl ar y rhaglenni.
Ar gyfer pob cyfres bydd nifer o gemau a gweithgareddau iaith - anagramau a chwileiriau i ymarfer geirfa a chwisiau i brofi dealltwriaeth a gwybodaeth.
