Nod

Mae Gwefan Dysgwyr S4C yma i gefnogi gwasanaethau isdeitlau S4C ar gyfer dysgwyr; mae’n darparu cymorth ychwanegol a gwybodaeth.

Prif nod y wefan ydy helpu dysgwyr i ddilyn a deall yn well rai o’r rhaglenni Cymraeg ar S4C.

Mae’n gwneud hyn drwy dargedu dysgwyr ar 4 lefel – Just Starting, Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Mae hefyd yn rhoi dewis o ffurfiau iaith De neu ffurfiau iaith y Gogledd.

Wrth ddod i mewn i’r wefan am y tro cyntaf, bydd rhaid i chi ddewis lefel a thafodiaith (De neu Gogledd). Dych chi’n gallu newid y dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio ar y bocs yng nghornel dde uchaf y sgrîn.

“Adnawdd iaith” yw’r wefan yma – cymorth i ddilyn a deall – yn hytrach na “chwrs iaith” sy’n mynd â’r dysgwr A i B. Ar bob lefel Gymraeg, byddwn ni’n esbonio geiriau anghyfarwydd.

Am fwy o wybodaeth am y lefelau, cliciwch ar Lefelau Iaith yn y ddewislen ar y chwith.

Am fwy o wybodaeth am yrr adnoddau ar y wefan, cliciwch ar Cynnwys yn y ddewislen ar y chwith.