yr ystafell gefn
Newyddion Heddiw
Pwrpas y penawdau hyn ar gyfer dysgwyr canolradd ydy darparu ymarfer. Dyn nhw ddim yn benawdau 'go iawn'. Dros gyfnod bydd yr adnawdd hwn yn cyflwyno prif batrymau'r newyddion i gyd.
Y dyddiad heddiw ydy'r nawfed ar hugain - the twenty ninth - y nawfed ar hugain a dyma'r newyddion
Aethpwyd a dyn i'r ddalfa yn gynnar y bore 'ma ar ôl sgarmes y tu allan i dafarn yn Rhoshafod. Roedd y dyn wedi trywanu'r tafarnwr ac wedi rhoi'r darfarn ar dan.
Roedd tan hefyd yn ardal Ffriddfawr neithiwr. Galwyd y Frigad Dan i ffatri teiars yn y dref ond diffoddwyd y tan yn syth.
Mae pobl Cymru yn bwyta gormod o sglodion Yn ôl y grŵp Healthy Wealthy Wales. Yn ôl yr adroddiad mae rhai yn cael sglodion bob nos.
A'r traffig i orffen. Mae hi'n bwrw glaw'n drwm yn ardal Gelligul ac mae'r traffig yn symud yn araf iawn. Ar y B129 hefyd mae gwaith cynnal a chadw ar y ffordd - maintenance work on the road - gwaith cynnal a chadw ar y ffordd - yn arafu'r traffig.
Dyna'r newyddion heddiw - y nawfed ar hugain o'r mis.
