Geni Dewi
Roedd geni Dewi wedi cael ei ragweld 30 o flynyddoedd cyn y geni ei hun gan Badrig Sant.
Pan ddaeth Dewi i’r byd, digwyddodd dau beth rhyfedd.
Roedd Non, ei fam, wedi bod yn defnyddio carreg yn obennydd. Pan ddaeth Dewi, holltodd y garreg yn ei hanner.
Wedyn, yn sydyn, ymddangosodd ffynnon newydd wrth draed Non.